1
Malaci 3:10
Y Proffwydi Byrion 1881 (John Davies, Ietwen)
PBJD
Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordŷ, A bydded bwyd yn fy nhŷ; A phrofwch fi yn awr yn hyn; Medd Arglwydd y lluoedd: Onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd; A thywallt o honof i chwi fendith, Hyd na bo digon o le iddi.
Porovnat
Zkoumat Malaci 3:10
2
Malaci 3:11-12
A mi a ataliaf i chwi y difäydd; Ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: Ac ni chyll i chwi y winwydden yn y maes; Medd Arglwydd y lluoedd. A’r holl genedloedd a’ch galwant yn wynfydedig: Canys byddwch chwi yn wlad hyfryd; Medd Arglwydd y lluoedd.
Zkoumat Malaci 3:11-12
3
Malaci 3:17-18
A byddant i mi, Medd Arglwydd y lluoedd; Yn berchenogaeth ar y dydd wyf fi yn osod: A thosturiaf wrthynt; Fel y tosturia gwr wrth ei fab; Yr hwn sydd yn ei wasanaethu. A chwi a welwch eto; Ragor rhwng uniawn a drygionus; Rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw; Ar hwn nis gwasanaetho ef.
Zkoumat Malaci 3:17-18
4
Malaci 3:1
Wele fi yn anfon fy nghenad; Ac efe a barotoa ffordd o’m blaen: Ac yn ddisymwth y daw i’w deml, Yr Arglwydd yr hwn yr ydych yn ei geisio, A chenad y cyfamod yr hwn a hoffwch, Wele y mae yn dyfod; Medd Arglwydd y lluoedd.
Zkoumat Malaci 3:1
Domů
Bible
Plány
Videa