Datguddiad 12:3-4

Datguddiad 12:3-4 BNET

A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o’r sêr o’r awyr ac yn eu taflu i’r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.