Eseia 51:3

Eseia 51:3 BNET

Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro’i hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i’w clywed ynddi, lleisiau’n diolch a sŵn canu.