1
Lyfr y Psalmau 34:18
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
SC1850
Un agos yw ein Ion At friwiau ’r galon glwyfus; Rhoir balm a chordial gan Dduw Naf I’r yspryd claf dolurus.
Compara
Explorar Lyfr y Psalmau 34:18
2
Lyfr y Psalmau 34:4
Mi geisiais Arglwydd nef, Fe glybu ’m llef yn erfyn; Gwaredodd f’ enaid gwan mewn pryd O’i ofn i gyd a’i ddychryn.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:4
3
Lyfr y Psalmau 34:19
Trallodau mynych iawn A ddaw i’r cyfiawn galon; Ond Duw a’i gweryd yn ddi‐goll Oddi wrth ei holl helbulon
Explorar Lyfr y Psalmau 34:19
4
Lyfr y Psalmau 34:8
O profwch, gwelwch oll, Mor ddigoll dda yw ’r Arglwydd; A roddo ’i hyder arno ’n hy, Oh dyna ’r dyn sy ddedwydd!
Explorar Lyfr y Psalmau 34:8
5
Lyfr y Psalmau 34:5
Eu llygaid at Dduw fry O’u dunos obry troisant; O’u cylch disgleiriai gwawl o’r nen, Dim gwarth na sen ni chawsant.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:5
6
Lyfr y Psalmau 34:17
Y cyfiawn dyrcha ’i lef, A Duw o’r nef yn gwrando; Fe ’i gweryd yn ei ras mewn pryd O’i boen i gyd, pan lefo.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:17
7
Lyfr y Psalmau 34:7
O amgylch pawb sy ’n byw Dan ofni Duw eu nodded, Ei Angel Ef sy ’n gaer a thŵr A gorau gwr i’w gwared.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:7
8
Lyfr y Psalmau 34:14
Rhag drwg encilia draw, A gwna ’n ddi‐fraw ddaioni; A chais Dangnefedd yn dy ddydd, Bydd beunydd yn ei chwmni.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:14
9
Lyfr y Psalmau 34:13
O cadw ’r tafod tau Rhag geiriau gau anwiredd; Poed dôr dy wefus dan glo pwyll Rhag traethu twyll na ffalsedd.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:13
10
Lyfr y Psalmau 34:15
Mae llygaid tawel Duw Ar bawb sy ’n byw yn gyfiawn; Agored yw ei glustiau Ef I wrando llef yr uniawn.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:15
11
Lyfr y Psalmau 34:3
Mawrygwch gyd â mi Yr Arglwydd Rhi trugarog; A chyd‐ddyrchafwn yma ’n awr Ei Enw mawr ardderchog.
Explorar Lyfr y Psalmau 34:3