YouVersion 標識
搜索圖示

Galarnad Ieremia Galarnad Ieremia

Galarnad Ieremia
Cyfansoddwyd y Galarnad, neu yn hytrach y Galarnadau, gwedi dadymchwelyd y wladwriaeth, dinystrio y Deml, a chaethgludo y trigolion i Babilon. Yr oedd Ieremia wedi gweled ei hun druenusrwydd y gwarchae, difrod y ddinas, a chyflwr adfydus y caethion: a dyma y pethau y galara o’u herwydd.
Nid oes un cysylltiad rhwng y pum’ Galarnad â’u gilydd. Tebyg i Ieremia eu hysgrifenu ar amrywiol brydiau. Yr un pethau y galara am danynt yn y pedair pennod cyntaf, sef trallodau y bobl cyn i’r ddinas Syrthio, creulondeb eu gelynion, a’r difrod a wnaethant, a sefyllfa druenus y rhai a aethent i gaethiwed. Tebyg yw mai yn y bennod olaf y galara am gyflwr gwael ac adfydus y rhai a adawyd yn y wlad.
Mae y pedair Galarnad cyntaf yn cynnwys bob un ddwy ddosbarth ar hugain, yn ol rhifedi llythyrenau yr egwyddor yn yr Hebraeg. Rhenir hwynt i ddwy ar hugain o adnodau, onid y drydedd Alarnad, yr hon hefyd a, ddylasai gael ei dosbarthu yn yr un modd. A, ar ddechreu yr adnod gyntaf; a B, yr ail; ac C, y drydedd; a D, y bedwaredd; ac felly hyd ddiwedd yr egwyddor. Cynnwys adnodau y tair Galarnad cyntaf chwech o linelli; ond yn y drydedd treblir y llythyren ymhob adnod; arferir A deirgwaith yn yr adnod gyntaf, a B deirgwaith yn yr ail adnod, ac felly hyd y diwedd. Ni chynnwys y bedwaredd Alarnad onid pedair llinell, a’r bummed, ddwy. Ond nid yw y ddiweddaf yn egwyddorig, sef yn dechreu yr adnodau yn ol trefn y llythyrenau yn yr Hebraeg. Dilynir trefn y llythyrenau yn gyson yn y bennod gyntaf, ond cyfnewidir lle dwy o honynt yn y tair a ganlynant; gosodir P o flaen O. Paham y gwnaed hyn nis gwyddir.
Galarnad Ieremia

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。