Genesis 2

2
1Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt. 2Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. 3A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.
4Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, 5A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear. 6Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. 7A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.
8Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. 9A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. 10Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen. 11Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: 12Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics. 13Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia. 14Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates. 15A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. 16A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: 17Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo. 19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. 20Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo. 21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi. 22A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. 23Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi. 24Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd. 25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

目前选定:

Genesis 2: BWM

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录

YouVersion 使用 cookie 来个性化你的体验。使用我们的网站,即表示你同意我们根据我们的隐私政策来使用 cookie。