Y Salmau 23

23
SALM XXIII
Dominus regit me.
Gobaith yn naioni Duw.
1Yr Arglwydd yw fy ’mugail clau,
ni âd byth eisiau arnaf:
2Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,
ar lan dwfr gloywlas araf.
3Fe goledd f’enaid, ac a’m dwg
rhyd llwybrau diddrwg cyfion,
Er mwyn ei enw mawr dilys
Fo’m tywys ar yr union.
4Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)
yn nyffryn cysgod angau,
Wyd gyda mi, a’th nerth, a’th ffon,
ond tirion ydyw’r arfau:
5Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,
lle’r oedd fy nghâs yn gweled:
Olew i’m pen, a chwppan llawn,
daionus iawn fu’r weithred.
6O’th nawdd y daw y doniau hyn
i’m canlyn byth yn hylwydd:
A minnau a breswyliaf byth
a’m nyth yn nhy yr Arglwydd.

Àwon tá yàn lọ́wọ́lọ́wọ́ báyìí:

Y Salmau 23: SC

Ìsàmì-sí

Pín

Ṣe Àfiwé

Daako

None

Ṣé o fẹ́ fi àwọn ohun pàtàkì pamọ́ sórí gbogbo àwọn ẹ̀rọ rẹ? Wọlé pẹ̀lú àkántì tuntun tàbí wọlé pẹ̀lú àkántì tí tẹ́lẹ̀