1
Y Salmau 95:6-7
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
SC
O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn, ac ymostyngwn iddaw: Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’, ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw. Cans ef i ni y sydd Dduw da, a phobl ei borfa ydym: A'i ddefaid ym, os chwi a glyw ei air ef heddyw’n gyflym.
Порівняти
Дослідити Y Salmau 95:6-7
2
Y Salmau 95:1-2
O dowch a chanwn i’r Arglwydd, efe yw llwydd ein bywyd: Ac ymlawenhawn yn ei nerth, ef yw ein prydferth iechyd. O down yn un-fryd gar ei fron, â chalon bur ddiolchgar: Bryssiwn at Dduw dan lawenhau, a chanwn psalmau’n llafar.
Дослідити Y Salmau 95:1-2
3
Y Salmau 95:3
Herwydd yr Arglwydd nef a llawr, y sy Dduw mawr yn ddiau: Tywysog mawr yw ef mewn trin, a brenin yr holl dduwiau.
Дослідити Y Salmau 95:3
4
Y Salmau 95:4
Efe biau holl ddaiar gron, a’r dyfnder eigion danaw: Uchelder hefyd, eithafoedd, mynyddoedd sydd yn eiddaw.
Дослідити Y Salmau 95:4