1
Y Salmau 63:1
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
SC
Tydi o Dduw yw y Duw mau, mi a geisia’n foreu attad. Y mae fy enaid yn dra sych, a’m cnawd mewn nych amdanad.
Порівняти
Дослідити Y Salmau 63:1
2
Y Salmau 63:3
Cans dy drugaredd (o Dduw byw) llawer gwell yw nâ’r bywyd: A’m gwefusau y rhof yt fawl, a cherdd ogonawl hyfryd.
Дослідити Y Salmau 63:3
3
Y Salmau 63:4
Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf, ac felly’th folaf etto, Ac yn dy enw di sydd gu y caf dderchafu’ nwylo.
Дослідити Y Salmau 63:4
4
Y Salmau 63:2
Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâs ceisiais o’th ras dy weled, Mal i’th welswn yn y Deml gynt, ar helynt nerth gogoned.
Дослідити Y Salmau 63:2
5
Y Salmau 63:7-8
Ac am dy fod yn gymmorth ym’, drwy fawr rym’ dy drugaredd, Fy holl orfoledd a gais fod dan gysgod dy adanedd. Y mae f’enaid wrthyd ynglyn dy ddeau sy’n ynghynnal.
Дослідити Y Salmau 63:7-8
6
Y Salmau 63:6
Tra fwy fi yn fy fy ngwely clyd, caf yn fy mryd dy gofio, Ac yng wiliadwriaethau’r nos câf achos i fyfyrio.
Дослідити Y Salmau 63:6