Psalmau 29

29
Y Psalm. XXIX. Cyrch a chwtta o dheg braich.
1Rhowch ir Argiwydh arwydh ynn
Plant y nerthawl hawl hwylwyn
Nerth gogoniant moliant mynn:
2Rhowch ir Arglwydh rwydh wreidhyn
Og oniant prydferth perthyn.
Rhowch i enw ner hyder hynn;
Adholwch arglwydh haelwynn
Yw annedh gogonedh gwynn.
3Lleferydh ner arfer oedh
Ar dhyfroedh llifoedh a llynn.
Duw ogoniant moliant mau
Diwair enw gwnaiff daranau,
Mae yr arglwydh wiwlwydh wau
Ar y mowrdhwfr ior myrdhau.
4Llafar yr arglwydh llefau.
Yn fy marn lydh gadarn gau
Llef yr arglwydh rwydh er iau
Sydh ogoniant swydh genau.
5Llef yr arglwydh wiwrwydh war
A dyrr Sedar dros oedau.
Tyrr yr arglwydh gwiwrwydh gar
Libanon Seidon Sedar
6Gwnaiff i naid di raid drydar:
Oll i gyd fal lloeau gwar
Libanon Sirion sy eirwar,
Fal vnkorn was orn is ar.
7Llef yr arglwydh burlwydh bar
A rann ym eiriau marwar:
8Llef yr arglwydh llwydh ior llwyd
Ysgwyd dhiffeith ae gwasgar.
Diffait[h] Cades fowrles fu
Deg rinwedh gwnaiff Duw i grynnu
9Gwnaiff llef fy ner gwiwner gu
Fwrw o ewig lo yforu,
Ar fforestudh datgudh du
Doedant ogoniant ganu
Pawb yw deml ef freinlef fru:
10Duw a eistedh mae ’n gwedhu
O dhifrif ar i dhyfroedh
Drwy ’n oessoedh i dyrnassu.
11Rydh Duw nerth prydferth per odfa dhwnus
Yw dhynion sydh yma
I bobloedh ner dyner da
O degwch a fendiga.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Psalmau 29: SC1595

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න