YouVersion
Pictograma căutare

Actau’r Apostolion 14

14
A.D. 45. —
1 Erlid Paul a Barnabas allan o Iconium. 8 Paul yn iacháu y dyn cloff yn Lystra: ac ar hynny y bobl yn tybied mai duwiau oeddynt hwy. 19 Llabyddio Paul. 21 Hwynt‐hwy yn myned trwy fagad o eglwysi, gan gadarnhau y disgyblion yn y ffydd, ac mewn dioddefgarwch: 26 ac wedi dychwelyd i Antiochia, yn mynegi yno beth a wnaethai Duw trwyddynt hwy.
1A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. 2Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. 3Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, #Marc 16:20; Heb 2:4yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. 4Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. 5A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, #2 Tim 3:11i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, 6Hwythau a ddeallasant hyn, ac #Mat 10:23a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: 7Ac yno y buant yn efengylu.
8Ac #Pen 3:2yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. 9Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, 10A ddywedodd â llef uchel, #Esa 35:6Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. 11A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, #Pen 28:6Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. 12A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 13Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. 14A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, 15A dywedyd, Ha wŷr, #Pen 10:26paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? #Iago 5:17dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr #Gen 1:1; Salm 38:6; 146:6; Dat 14:7hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: 16#Salm 81:12; Pen 17:30Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. 17#Rhuf 1:20Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. 18Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; #2 Cor 11:25; 2 Tim 3:11ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw. 20Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe. 21Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, #14:21 a dysgu llawer, hwy, & c.ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelsant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, 22Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, #Pen 11:23; 13:43 a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac #Luc 22:28, 29; Rhuf 8:17; 2 Tim 2:11; 3:12mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw. 23Ac wedi #Titus 1:5ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. 24Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia. 25Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia: 26Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, #Pen 13:1, 3o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant. 27Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, #Pen 15:4, 12adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef #1 Cor 16:9; 2 Cor 2:12agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd. 28Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.

Evidențiere

Împărtășește

Copiază

None

Dorești să ai evidențierile salvate pe toate dispozitivele? Înscrie-te sau conectează-te