Logótipo YouVersion
Ícone de pesquisa

Psalmau 24

24
Y Psalm. XXIV. Cyhydedh Wyth Bann.
1Vw piau ’r dhaear dan warant
Oll vnwedh gidag ae llvniant,
Y byd pawb ennyd pob anant
Is hevlwen yndho a breswyliat
2Roes i sylfain main a mwyniat
Ar y dwfr ior sygnfor sant:
Astud fodhau gwastad fydhant
3Pwy ith fynydh a rydh rwydhiant?
O dhiwair engil a dhringant?
Yw le santaidh pwy a feidhiant
O naws hyfedr yno a safant?
4Y gwirion dhwylaw a garant,
A chalon sydh lan o chwiliant
Nid ydyw walch goegfalch gwagfant:
Nag am lwf o dwyll krybwyllant
5[Bend]ithion dhigon a dhygant,
A chy[f]īo wnder gann ner y gwnânt
I hiech[y]d genedl ymchwedlant.
6Fowiog e[i]soes ef a geisiant
Ae wyneb go[s]eb a gowsant
O gwbl oll, sef Iago ae blant
7Kodwch a dyrchefwch drwy chwant:
Ych pennau a gwyrth pyrth porthiant
Kodwch a dyrchefwch drwy chwant,
A drysau ’r byd a gyd‐godant
Entried brenin gwin gogoniant.
8Pwy yw brenhin gwin gogoniant?
Duw nerthawg, allvawg llowiant
Vchel yn rhyfel yn rhifant.
9Kodw ch a dyrchefwch drwy chwant
Ych pennau a gwyrth pyrth porthiant,
Kodwch a dyrchefwch drwy chwant
A drysau ’r byd a gyd‐godant:
Entried brenhin gwin gogoniant.
10Pwy yw brenhin gwin gogoniant?
Dvw llu[o]edh rhyfeloedh foliant,
Ef yw brenhin gwin gogoniant.

Atualmente selecionado:

Psalmau 24: SC1595

Destaque

Partilhar

Copiar

None

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão