Daniel 8:24-25
Daniel 8:24-25 BCND
Bydd ei nerth yn fawr, ac fe wna niwed anhygoel; fe lwydda yn yr hyn a wna, ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint. Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu; cynllunia orchestion yn ei galon, a heb rybudd fe ddinistria lawer. Heria dywysog y tywysogion, ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.


