2 Samuel 18:9-10

2 Samuel 18:9-10 BNET

Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i’r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. Gwelodd un o’r dynion beth ddigwyddodd a mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.”