1
Rhufeiniaid 2:3-4
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw? Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?
Porównaj
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:3-4
2
Rhufeiniaid 2:1
Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau.
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:1
3
Rhufeiniaid 2:11
Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:11
4
Rhufeiniaid 2:13
Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:13
5
Rhufeiniaid 2:6
Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:6
6
Rhufeiniaid 2:8
ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder.
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:8
7
Rhufeiniaid 2:5
Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw.
Przeglądaj Rhufeiniaid 2:5