Lyfr y Psalmau 16

16
1O cadw, cadw fi, fy Nuw,
Dy gariad yw fy hyder;
2Dywedais wrthyt mai Tydi
Yw ’m Duw a’m Rhi bob amser.
I Ti nid ydyw’n ddim fy nâ,
3I’th Saint fe wna gymmwynas,
Y rhai rhagorol yn y byd;
Mor hyfryd eu cymdeithas!
4Gofidiau ar ofidiau fyrdd
Amgylchant ffyrdd gwyrgeimion
Y rhai a frysiant i fawrhâu
Neb duwiau gau newyddion.
Eu dïod‐offrwm, gwaedlyd li’,
Na’u haberth ni offrymmaf;
Ag enwau cas eu delwau gau
Fy ngenau ni halogaf.
YR AIL RAN
5Fy rhan a’m phïol yw fy Ion,
Mae ’m hyspryd ynddo ’n llawen;
Tydi wyt etifeddiaeth im’,
Tydi gynheli ’m coelbren.
6Syrthiodd y coelbren hwn yn rhan
Mewn hyfryd fan i f’enaid;
Syrthiodd im’ etifeddiaeth fawr,
Un deg ei gwawr, fendigaid.
7Bendithiaf finnau ’r Arglwydd Ior
Am ddysg ei gyngor nefol;
F’ arennau ’r nos fy nysgu wnant
Yn ei hyfforddiant dwyfol.
Y DRYDEDD RAN
8Rhoddais bob amser ger fy mron
Yr Arglwydd cyfion cywir;
Am ei fod ar fy nehau law
Gan ofn na braw ni’m syflir.
9Llawen am hyn yw ’m hyfryd fron,
Rhof fawl yn goron iddo;
A’m cnawd oddi wrth y byd a’i bwys
A orphwys dan obeithio.
10Gwn na’s gadewi, Arglwydd cu,
Yn uffern ddu mo ’m henaid,
Ac na’s goddefi i’th Sanct na’i wedd
Wel’d llwgr y bedd na’i niwaid.
11Dangosi ’r ffordd o’r bedd cyn hir
Im’ fyn’d i dir y bywyd,
Lle mae llawenydd pur heb baid
Yn llenwi ’r enaid hyfryd.

Markering

Kopiëren

Vergelijk

Delen

None

Wil je jouw markerkingen op al je apparaten opslaan? Meld je aan of log in