Matthew 1

1
Pen. j.
¶ Iachae Christ, ys ef yw, y Messiach a addawsit ir tadae, yr hwn a gahat o r Ysprytglan, ac a aned o Vair vorwyn, a hi wedy hi dyweddio ac Ioseph. Yr Angel yn boddlony meddwl Ioseph. Paam y gelwir ef Iesu, a phaam Emmanuel.
Y sul yn ol die natalic Christ.
1LLyver #1:1 * iachaecenedleth Iesu Christ vap Dauid, vap Abrahā, 2#1:2 * i Abrahā ganet Isaac: i Isaac bu Iacob, &c.Abraham a #1:2 enillodd, a gavasgenetlodd Isaac. Ac Isaac a genetlodd Iacob. Ac Iacob a genetloedd Iudas, a ei vroder. 3Ac Iudas a genetloedd Phares, a’ Zara o Thamar. A’ Phares a genetlawdd Esrom. Ac Esrom a genetlawð Aram. 4Ac Aram a genetloð Aminadab. Ac Aminadab a genetloð Naasson. A’ Naasson a genetlawdd Salmō. 5A’ Salmō a genetloð Booz o Rachab. A’ Booz a genetlawdd Obed o Ruth. Ac Obed a genetlawdd Iesse. 6Ac Iesse a genetlawdd Dauid Vrenhin. A’ Dauid Vrenhin a genetlawdd #1:6 * SelefSolomon o hon oedd vvreic Urias. 7A’ Solomon a genetlawdd Roboam. A’ Roboam a genetlodd Abia. Ac Abia a genetloedd Asa. 8Ac Asa a genetlawdd Iosaphat. Ac Iosaphat a genetlawdd Ioram. Ac Ioram a genetlawdd Ozias. 9Ac Ozias a genetlawdd Ioatham. Ac Ioatham a genetlawdd Achaz. Ac Achaz a genetlawdd Ezecias. 10Ac Ezecias a genetlawdd Manasses. A’ Manasses a genetlawdd Amon. Ac Amon a genetlawdd Iosias. 11Ac Iosias a genetlawdd Iacim. Ac Iacim a genetlawdd Iechonias, a’ ei vroder yn‐cylch amser ei #1:11 * erchywynedigaeth, caethiwed, dugiat, symud.traigl i Vabylon. 12Ac yn ol ei treiglo hwy i Vabylon, Iechonias a genetloedd Salathiel. A’ Salathiel a genetlawdd Zorababel. 13A’ Zorobabel a genetlawdd Abiud. Ac Abiud a genetlawdd Eliacim. Ac Eliacim a genetlawdd Azor. 14Ac Azor a genetlawdd Sadoc. A’ Sadoc a genetloedd Achim. Ac Achim a genetlawdd Eliud. 15Ac Eliud a genetlawdd Eleazar. Ac Eleazar a genetlawdd Matthan. A’ Matthan a genetlawdd #1:15 * IacoIacob. 16Ac Iacob a genetlawdd Ioseph, gwr Mair, o’r hon y ganet Iesu yr hwn a elwir Christ. 17A’r oll #1:17 * oesoeddgenedlaethae o Abraham i Ddauid, pedair Cenedlaeth ar ddec: ac o Dauid yd y treigl ir Babilon, pedair #1:17 oes, tocenedlaeth ar ddec: ac o’r treigl i Vabylon #1:17 * iyd Christ, pedair cenedlaeth ar ddec.
18¶ A’ genedigaeth Iesu Christ oedd val hyn, wedy dyweddio Mair ei vam ac Ioseph, cyn na ei dyvot wy ynghyt, hi a gahat yn veichioc o’r Yspryt glan. 19Ac Ioseph y gwr hi can ei vot yn gyfion, ac nad ewyllysei y #1:19 * hortioenllibio hi, a amcanodd y rhoi hi ymaith #1:19 * dan llaw, eb wybotyn ddirgel. 20A’ thra ytoedd ef yn bwriady hynn, #1:20 welenycha, Angel yr Arglwydd yn ymddangos iddaw trwy #1:20 * gwsc, breuddwythun, gā ddywedyt, Ioseph vap Dauid, nac ofna gymeryt Mair yn wreic y‐ty: can ys yr hyn a genetlwyt ynthei, ys ydd or yspryt glan. 21A’ hi a #1:21 escor arddwc vap, a’ thi elwy ei Enw ef Iesu: can ys ef a #1:21 * gaidwiachaa ei bopul o ddywrth ei pechatae. 22A’ hyn oll a wnaethpwyt er cyflawny, yr hyn addywetpwyt gan yr Arglwydd twy’r Propwyt, can ddywedyt, 23#1:23 * Wele, synnaNycha, #1:23 Riain, lleian, gwyrymorwyn a vydd veichioc, ac a ddwc vap, a’ hwy alwant y enw ef Emmanuel, yr hwn a’s #1:23 * dehongliresponir, a arwyddocaa, Duw gyd a ni. 24Ac Ioseph, pan #1:24 ddeffroes o gwscuddihunodd o hun, a wnaeth megis y gorchymynesei Angel yr Arglwydd yddaw: ac a gymerawdd ei wreic. 25Ac nyd adnabu, ef yhi, yd pan escorawdd hi ar hei map #1:25 * cyntaf anetcyn-enit ac ef alwodd y enw ef IESV.

Nu geselecteerd:

Matthew 1: SBY1567

Markering

Deel

Kopiëren

None

Wil je jouw markerkingen op al je apparaten opslaan? Meld je aan of log in

YouVersion gebruikt cookies om je ervaring te personaliseren. Door onze website te gebruiken ga je akkoord met ons gebruik van cookies zoals beschreven in ons Privacybeleid