သမ္မာကျမ်းစာအက်ပ် တံဆိပ်
ရှာရန် အိုင်ကွန်

Hosea 3

3
Cariad Duw yn cynnig gobaith
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i:
“Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a’i bod yn anffyddlon i ti. Dyna’n union fel mae’r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw’n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”
2Felly dyma fi’n mynd a thalu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani. 3A dyma fi’n dweud wrthi, “O hyn allan ti’n mynd i aros gyda mi. Ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”
4Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nac arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol. 5Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a’u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw’n plygu i’r ARGLWYDD a’i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.

လက်ရှိရွေးချယ်ထားမှု

Hosea 3: bnet

အရောင်မှတ်ချက်

ကူးယူ

နှိုင်းယှဉ်

မျှဝေရန်

None

မိမိစက်ကိရိယာအားလုံးတွင် မိမိအရောင်ချယ်သောအရာများကို သိမ်းဆည်းထားလိုပါသလား။ စာရင်းသွင်းပါ (သို့) အကောင့်ဝင်လိုက်ပါ