Wedyn cwmrodd Pilat Iesu a'i whipo fe, a lethoodd i sowldiwrs goron mas o ddrain a'i rhoi 'ddi ar i ben, wedyn roion nhwy glogyn piws amdano. Wedyn wen nhwy cadw dod lan ato fe a gweud, “Henffych, Brenin ir Iddewon!” a'i fwrw fe ar i wmed.
Âth Pilat mas shwrne 'to a gweu 'th ir Iddewon, “Drichwch, dw i'n dod ag e mas i chi fel bo chi'n gwbod sena i'n câl dim byd indo fe i ateb.” So âth Iesu mas in gwisho'r goron ddrain a'r clogyn piws. Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Dirchwch, co'r dyn.” Pan welo'r penffeiradon a'r polisis e, gweiddon nhwy, “Croeshoela fe! Croeshoela fe!” Gwedo Pilat wrthon nhwy, “Cerwch chi ag e ich hunen a'i groeshoelo fe; achos sena i'n galler gweld dim byd arno fe i ateb.” Atebo'r Iesu fe, “Ma cifreth 'da ni, a ma'r gifreth 'na'n gweud dile fe farw, achos bo fe wedi gweud pethe wedd in meddwl i fod e'n neud i hunan in Grwt i Dduw.” Pan gliwo Pilat hynny gâs e ofon, a âth e nôl miwn i'r pencadlys, a gweu 'th Iesu, “O ble wit ti'n dod?” Nâth Iesu ddim i ateb. Gwedo Pilat wrtho, “Wit ti'n pallu sharad 'da fi? Senot ti'n stando bo hawl 'da fi i di adel di'n rhydd a hawl i di goreshoelo di?” Atebo Iesu, “Bise dim hawl 'da ti o gwbwl se fe heb gâl i roi i ti o lan. Achos 'ny ma'r un nâth in roi i lan i ti in fwy euog byth.” Achos hyn treiodd Pilat i gâl e'n rhydd. Gweiddodd ir Iddewon, “Os nei di adel hwn in rhydd senot ti'n ffrind i Gesar. Ma unrhiwun sy'n treial bod in frenin in erbyn Cesar.”
Pan gliwo Pilat i geire 'ma dâth mas â Iesu tu fas, a ishte lawr ar i stôl-farnu in i lle man nhwy'n galw in “I Pafin”, neu in iaith ir Iddewon, “Gabbatha”. Wedd i'n ddwarnod cyn Cwrdde Mowr Pasg, a wedd i'n rhyw ddouddeg ar gloch. Gwedodd e wrth ir Iddewon, “Drichwch, co'ch Brenin chi!” Gweiddon nhwy, “Lladdwch e, lladdwch e, croeshoelwch e!” Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Wdw i fod groeshoelo'ch Brenin chi?” Atebo'r penffeiradon, “Sdim brenin 'da ni ond Cesar.” Wedyn nâth e i roi e lan iddyn nhwy fel gallen nhwy i groeshoelo fe.