Ethon nhwy â Iesu wrth Caiaffas i bencadlys i Rheolwr. Wedd i'n damed bach cyn i'r houl godi. Ethon nhwy u hunen ddim miwn i'r pencadlys, fel na fidde'n nhw'n neud u hunen in fowlyd in grefyddol a wedyn in ffaelu bita'r Pasg. So dâth Pilat mas atyn nhwy a gweud, “Beth sy 'da chi weud in erbyn i dyn 'ma?” Atebon nhwy e, “Os bise dyn 'ma ddim in ddyn drwg a fisen ni wedi'i roi e ind i ddwylo di?” Gwedo Pilat wrtho fe, “Cerwch ag e ich hunen, a barnwch e fel ma'ch cifreth chi in i weud.” Gwedo'r Iddewon wrtho fe, “Senon ni â'r hawl i roi neb i farwoleth.” We hyn fel bo geirie Iesu in dod in wir pan wedodd e shwt wedd e'n mynd i farw. Âth Pilat nôl miwn i'r pencadlys, a galw Iesu i ddwâd ato fe a gweu 'tho, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud 'na di unan, neu wes rhei erill wedi gweu 'tho ti amdana i?” Atebo Pilat, “Wdw i'n Iddew? Di bobol di a'r penffeiradon sy wedi di rhoi di lan i fi. Beth wit ti wedi'i neud?” Atebo Iesu, “Seno'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma. Os bise'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma bise'n weishon i wedi wmla, fel na bise'n i'n câl in roi lan i'r Iddewon; ond, fel ma i, senon'n frenhinieth in dod o fan 'yn.” Gwedo Pilat wrtho, “So wit ti'n frenin?” Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud bo fi'n frenin. Dw i'n gweud bo fi wedi câl ing ngeni a wedi dwâd miwn i'r byd ar gownt hyn, i weud am i gwirionedd. Ma pobun sy â'r gwirionedd indyn nhwy in grondo ar in llaish i.” Gwedodd Pilat wrtho fe, “Beth yw gwirionedd?”
Pan wedd e wedi gweud hyn âth e mas 'to at ir Iddewon a gweu 'tho nhwy, “Sena i'n galler gweld dim byd indo fe i ateb; ond ma arfer 'da chi bo fi'n gadel dyn in rhydd ichi amser Cwrdde Mowr Pasg. Licech chi fi adel Brenin ir Iddewon in rhydd i chi?” Gweiddon nhwy nôl, “Ddim fe, ond Barabbas.” Lleidir we Barabbas.