Weno Tomos (un o'r Twins), un o'r Douddeg, ddim 'da nhwy pan ddâth Iesu. Gwedo'r disgiblion erill wrtho fe, “Ŷn ni wedi gweld ir Arglwidd.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Os na na i weld marcs ir hoelon in i ddwylo, a rhoin fys in lle'r hoelon, a rhoi'n llaw in i ochor e, na i byth gredu.”
Wyth dwarnod in ddiweddarach wen nhwy gida gily 'to, a we Tomos gidan nhwy. We'r drwse ar gau, ond dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy a gweud, “Heddwch i chi.” Wedyn wedodd e wrth Tomos, “Dere â di fys 'ma a dricha ar in ffwylo i; dere â di law 'ma a'i rhoi 'ddi in in ochor i; paid bod in ddyn sy ddim in credu, ond in ddyn sy'n credu.” Atebo Tomos, “In Arglwidd a'n Dduw i.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Wit ti wedi credu achos bo ti wedi'n weld i? 'Na hapus yw'r rhei sy ddim wedi gweld ond sy wedi credu.”
Nâth Iesu lot o bethe erill pan wedd e 'da'r disgiblion sy ddim wedi'i reito lawr in i llifyr 'ma; ond ma rhein wedi câl i reito lawr fel bo chi'n credu taw Iesu yw'r Meseia, Crwt Duw, a achos bo chi'n credu, câl bowid am byth in i enw fe.