Matthew Lefi 2

2
1-6Gwedi genedigaeth Iesu, yn Methlehem Iuwdëa, yn nheyrnasiad Herod frenin, rhai o’r magiaid dwyreiniol á ddaethant i Gaersalem, ac á ymofynasant, Pa le y mae Brenin yr Iuddewon sy newydd ei eni; canys gwelsom ei seren ef yn ngwlad y dwyrain, ac yr ydym wedi dyfod i warogaethu iddo? Herod frenin wedi clywed hyn, á gythruddwyd, a holl Gaersalem gydag ef. A gwedi cynnull yn nghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe á ymofynodd â hwynt pa le y genid y Messia. Hwythau á atebasant, yn Methlehem Iuwdëa, canys fel hyn yr ysgrifenwyd gàn y Proffwyd, “A thithau Fethlehem, yn nghantref Iuwda, nid y leiaf enwog wyt yn mhlith dinasoedd Iuwda; canys o honot y daw llywydd, yr hwn á lywodraetha fy mhobl Israel.”
7-12Yna Herod wedi galw y magiaid yn ddirgel, á ’u holodd hwynt yn fanwl yn nghylch amser ymddangosiad y seren. A chàn eu hanfon hwynt i Fethlehem, efe á ddywedodd, Ewch, gwnewch ymofyniad manwl yn nghylch y plentyn, a gwedi i chwi ei gael ef, dygwch air i mi, fel yr elwyf finnau hefyd, a gwarogaethu iddo. Gwedi clywed y brenin, hwy á ymadawsant; ac wele! y seren à ymddangosasai iddynt yn ngwlad y dwyrain, á symudai o’u blaen hwynt, hyd oni ddaeth, a sefyll uwch y fan, lle yr oedd y plentyn. Pan welsant y seren eilwaith, hwy á lawenychasant yn ddirfawr. A gwedi eu dyfod i’r tŷ, hwy á ganfuant y plentyn gyda Mair ei fam; a chàn ymgrymu à warogaethasant iddo. Yna, gwedi agor eu cistanau, hwy á offrymasant yn anrhegion iddo, aur, thus, a mỳr. A gwedi eu rhybyddio mewn breuddwyd i beidio dychwelyd at Herod, hwy á aethant adref ffordd arall.
13-15Gwedi iddynt fyned, wele! cènad i’r Arglwydd á ymddangosodd i Ioseph mewn breuddwyd, ac á ddywedodd, Cyfod, cỳmer y plentyn gyda’ i fam, a ffo i’r Aifft; ac aros yno hyd oni orchymynwyf i ti’; canys Herod á geisia y plentyn iddei ddyfetha ef. Yn ganlynol, efe á gyfododd, á gymerodd y plentyn, gyda’ i fam, ac á giliodd o hyd nos i’r Aifft, lle yr arosodd efe hyd farwolaeth Herod; fel y gwireddid yr hyn à ddywedasai yr Arglwydd drwy y Proffwyd, “O’r Aifft y gelwais fy Mab.”
16-18Yna Herod, pan welodd ei dwyllo gàn y magiaid, á ddigllonodd yn ddirfawr, ac á ddanfonodd guddgènadau, y rhai á laddasant, wrth ei orchymyn, yr holl blant gwryw yn Methlehem, ac yn ei holl diriogaeth, o’r rhai yn cychwyn àr eu dwyflwydd oed, i lawr hyd yr amser am yr hwn yr ymofynasai efe yn fanwl â’r magiaid. Yna y gwireddwyd gair Ieremia y Proffwyd, “Gwaedd á glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofedd, a chwynfan chwerw; Rahel yn wylo am ei phlant, ac yn gwrthod ei chysuro, am nad ydynt mwy.”
19-23Gwedi marw Herod, angel i’r Arglwydd á ymddangosodd mewn breuddwyd i Ioseph yn yr Aifft, ac á ddywedodd, Cyfod, cymer y plentyn gyda’ i fam, a dos i dir Israel; canys meirw ynt y sawl à geisient ei einioes ef. Yn ganlynol, efe á gyfododd, á gymerodd y plentyn gyda’ i fam, ac a ddaeth i dir Israel; ond wedi clywed bod Archeläus yn teyrnasu àr Iuwdëa yn lle ei dad Herod, efe á ofnai ddychwelyd yno; a gwedi ei rybyddio mewn breuddwyd, efe á giliodd i dalaeth Galilëa, ac á drigodd mewn dinas a’i henw Nasareth; yn hyn yn gwireddu mynegiad y Proffwyd am Iesu, y gelwid ef yn Nasarethiad.

Terpilih Sekarang Ini:

Matthew Lefi 2: CJW

Highlight

Kongsi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan merentas semua peranti anda? Mendaftar atau log masuk

YouVersion menggunakan kuki untuk memperibadikan pengalaman anda. Dengan menggunakan laman web kami, anda menerima penggunaan kuki kami seperti yang diterangkan dalam Polisi Privasi kami