Mathew 8
8
Iacháu’r Gwahanglwyfus
1Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. 2Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.’
3A’r Iesu a estynnodd ei law ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, ‘Mynnaf, glanhaer di.’ Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4A dywedodd yr Iesu wrtho, ‘Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.’
Ffydd y Canwriad
5Ac wedi ei ddyfod i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, 6a dywedyd, ‘Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr.’ 7A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Mi a ddeuaf ac a’i hiachâf ef.’
8A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, ‘Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd. Eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 9Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf. A dywedaf wrth hwn, “Cerdda”, ac efe a â; ac wrth arall, “Tyred”, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, “Gwna hyn”, ac efe a’i gwna.’
10A’r Iesu pan glywodd, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, ‘Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 11Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant i fwyta gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd. 12Ond plant y deyrnas a deflir allan i’r tywyllwch eithaf. Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’ 13A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, ‘Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti.’ A’i was a iachawyd yn yr awr honno.
Iacháu Llawer
14A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei fam‐yng‐nghyfraith ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 15Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi, a’r cryd a’i gadawodd hi. A hi a gododd, ac a wasanaethodd arno. 16Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig; ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion, 17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseia y proffwyd, gan ddywedyd,
‘Efe a gymerodd ein gwendid ni,
ac a ddug ein clefydau.’#Eseia 53:4
Talu’r Pris
18A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19A rhyw ysgrifennydd a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, ‘Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.’ 20A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Y mae ffeuau gan y llwynogod a chan ehediaid y nefoedd nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.’
21Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, ‘Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.’ 22A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Canlyn fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.’
Gostegu Storm
23Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, nes cuddio’r llong gan y tonnau; eithr efe oedd yn cysgu. 25A’r disgyblion a ddaethant ato ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.’ 26Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd?’ Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu tawelwch mawr. 27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, ‘Pa fath un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!’
Iacháu’r Dau Ddieflig
28Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 29Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, ‘Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? A ddaethost ti yma i’n poenydio ni cyn yr amser?’ 30Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer yn pori. 31A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, ‘Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch.’
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Ewch.’ A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch. Ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuont feirw yn y dyfroedd. 33A’r meichiaid a ffoesant; ac wedi eu dyfod hwy i’r dref, hwy a fynegasant bob peth, a pha beth a ddigwyddasai i’r rhai dieflig. 34Ac wele, yr holl dref a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu. A phan ei gwelsant, deisyfasant arno ymadael o’u cyffiniau hwynt.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 8: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക

: