Mathew 7

7
Barnu Eraill
1‘Na fernwch, fel na’ch barner. 2Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau. 3A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, “Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad”, ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 5O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6‘Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
Gofynnwch, Ceisiwch, Curwch
7‘Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 8Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
9‘Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
Y Porth Cyfyng
13‘Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi. 14Ond cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
Y Pren a’i Ffrwyth
15‘Gochelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21‘Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, “Arglwydd, Arglwydd”, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, “Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di, ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di, ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?” 23Ac yna y dywedaf yn eglur wrthynt, “Nid adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr drygioni.”
Y Ddau Dŷ
24‘Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25a’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a drawsant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd, oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26A phob un sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, a heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27a’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.’
28A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef. 29Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 7: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക