Mathew 9
9
Iacháu’r Claf o’r Parlys
1Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w dref ei hun. 2Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely. A’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, ‘Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.’ 3Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, ‘Y mae hwn yn cablu.’
4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, ‘Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 5Canys pa un hawsaf ai dywedyd, “Maddeuwyd dy bechodau”, ai dywedyd, “Cyfod a rhodia”? 6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau’ — yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys — ‘Cyfod, cymer dy wely i fyny, o dos i’th dŷ.’ 7Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith i’w dŷ. 8A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.
Galw Mathew
9Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, ‘Canlyn fi.’ Ac efe a gyfododd ac a’i canlynodd ef.
10A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele, casglwyr trethi lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion. 11A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, ‘Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r casglwyr trethi a’r pechaduriaid?’
12A phan glywodd yr Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, ‘Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond y rhai cleifion. 13Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, “Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth”. Canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.’#Hosea 6:6
Holi ynghylch Ymprydio
14Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, ‘Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?’
15A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant. 16Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn; canys y chwanegiad a dynn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth. 17Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen. Os amgen, y costrelau a dyr, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a ddifethir. Eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.’
Merch y Pennaeth a’r Wraig â’r Gwaedlif
18Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, ‘Bu farw fy merch yr awr hon, eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi.’ 19A’r Iesu a gyfododd ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion.
20Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef. 21Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, ‘Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf.’ 22Yna yr Iesu a drodd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, ‘Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a’th iachaodd.’ A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.
23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y pibyddion a’r dyrfa yn terfysgu, 24efe a ddywedodd wrthynt, ‘Ciliwch, canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi.’ A hwy a’i gwatwarasant ef. 25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a’r llances a gyfododd. 26A’r gair am hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
Y Ddau Ddyn Dall a’r Mudan
27A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddyn dall a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, ‘Mab Dafydd, trugarha wrthym.’ 28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn?’ Hwy a ddywedasant wrtho, ‘Ydym, Arglwydd.’ 29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, ‘Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.’ 30A’u llygaid a agorwyd. A’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, ‘Gwelwch nas gwypo neb.’ 31Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod trwy’r holl wlad honno.
32Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan. A’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, ‘Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.’ 34Ond y Phariseaid a ddywedasant, ‘Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.’
Y Gweithwyr yn Anaml
35A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl drefi a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 36A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, ac yn ddiymadferth, fel defaid heb ganddynt fugail. 37Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, ‘Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml. 38Am hynny gweddïwch ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.’
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 9: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക

: