Mathew 6

6
Rhoddi Elusen
1‘Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt. Os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. 2Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. 3Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau, 4fel y byddo dy elusen yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
Gweddïo
5‘A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr; canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. 6Ond tydi, pan weddïech, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. 7A phan weddïoch, na fyddwch wag siaradus fel y Cenhedloedd. Canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. 8Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy. Canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau, cyn gofyn ohonoch ganddo.
9‘Am hynny gweddïwch chwi fel hyn:
“Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw.
10Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
11Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
12A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
13Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag y drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.”
14Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau. 15Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.
Ymprydio
16‘Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist. Canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. 17Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben a golch dy wyneb, 18fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
Trysor yn y Nef
19‘Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; 20eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt. 21Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
22‘Cannwyll y corff yw’r llygad; am hynny os bydd dy lygad yn iach, dy holl gorff fydd yn olau. 23Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
24‘Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill ac a gâr y llall, ai efe a ymlŷn wrth y naill ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
Gofal a Phryder
25‘Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch, neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? 26Edrychwch ar adar y nefoedd, oblegid nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 27A phwy ohonoch gan bryderu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei einioes?
28‘A phaham yr ydych chwi yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu. 29Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 30Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn fwy o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 31Am hynny na phryderwch, gan ddywedyd, “Beth a fwytawn?” neu, “Beth a yfwn?” neu, “A pha beth yr ymddilladwn?” 32Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio; oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn. 33Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 34Na phryderwch gan hynny am yfory, canys yfory a fydd â’i bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 6: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക