Mathew 20

20
Dameg Gweithwyr y Winllan
1‘Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan. 2Ac wedi cytuno â’r gweithwyr am geiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan.
3‘Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa. 4Ac efe a ddywedodd wrthynt, “Ewch chwithau i’r winllan, a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi.” A hwy a aethant ymaith.
5‘Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. 6Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, “Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?” 7Dywedasant wrtho, “Am na chyflogodd neb nyni.” Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch chwithau i’r winllan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.”
8‘A phan aeth hi yn hwyr, meistr y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, “Galw’r gweithwyr a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.”
9‘A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog. 10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. 11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, 12gan ddywedyd, “Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd a’r gwres.” 13Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, “Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi. Onid am geiniog y cytunaist â mi? 14Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith. Yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau. 15Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?”
16‘Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf. Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.’
Rhagfynegi ei Farw y Drydedd Waith
17Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt, 18‘Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, 19ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar ac i’w fflangellu ac i’w groeshoelio. A’r trydydd dydd efe a atgyfyd.’
Cais Iago ac Ioan
20Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan ymgrymu a deisyf rhyw beth ganddo. 21Ac efe a ddywedodd wrthi, ‘Pa beth a fynni?’ Dywedodd hithau wrtho, ‘Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.’
22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, ‘Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi i’w yfed, neu eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi?’ Dywedasant wrtho, ‘Gallwn.’
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Diau yr yfwch fy nghwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef; eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi, ond y mae i’r sawl y darparwyd iddynt gan fy Nhad.’
24A phan glywodd y deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frawd. 25A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, ‘Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy. 26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi; ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn was i chwi. 27A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn gaethwas i chwi. 28Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.’
Iacháu Dau Ddyn Dall
29Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. 30Ac wele, dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant gan ddywedyd, ‘Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.’ 31Ond y dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent. Hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.’
32A’r Iesu a safodd ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, ‘Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?’ 33Dywedasant wrtho, ‘Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.’ 34A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid; ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 20: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക