Mathew 19

19
Ysgariad
1A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen. 2A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.
3A daeth y Phariseaid ato, gan ei brofi, a dywedyd wrtho, ‘Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am unrhyw achos?’
4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Oni ddarllenasoch i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau “eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw,”#Genesis 1:27; 5:2; 2:24 5ac iddo ddywedyd, “Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a’r ddau fyddant yn un cnawd”? 6Gan hynny, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.’
7Hwythau a ddywedasant wrtho, ‘Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith?’ 8Yntau a ddywedodd wrthynt, ‘Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. 9Ac meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas; ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.’
10Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, ‘Os felly y mae’r sefyllfa rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.’ 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. 12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.’
Plant Bychain a’r Iesu
13Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai; ond y disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 14A’r Iesu a ddywedodd, ‘Gadewch i’r plant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi; canys o’r cyfryw rai y mae teyrnas nefoedd.’ 15Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
Y Gŵr Ieuanc Goludog
16Ac wele, un a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, ‘Athro da, pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol?’ 17Yntau a ddywedodd wrtho, ‘Paham y gelwi fi yn dda? Nid da neb ond un, sef Duw. Ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.’
18Efe a ddywedodd wrtho yntau, ‘Pa rai?’ A’r Iesu a ddywedodd, ‘“Na ladd, na odineba, na ladrata, na ddwg gamdystiolaeth,#Exodus 20:12–16; Lefiticus 19:18 19anrhydedda dy dad a’th fam,” a “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”’
20Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, ‘Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid. Beth sydd yn eisiau i mi eto?’ 21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt a dyro i’r tlodion, a thi a gei drysor yn y nef; a thyred, canlyn fi.’ 22Ond pan glywodd y gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffwrdd yn drist, canys yr oedd yn berchen da lawer.
23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, ‘Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. 24A thrachefn meddaf i chwi, haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.’
25A phan glywodd ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, ‘Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?’ 26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, ‘Gyda dynion amhosibl yw hyn, ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.’
27Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, ‘Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. Beth gan hynny a fydd i ni?’ 28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 29A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd, neu dad neu fam, neu wraig neu blant neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe. 30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 19: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക