Mathew 9
9
1Felly fe aeth yn ei ôl i'r cwch, a chroesi, achyrraedd ei dref ei hunan. 2A dyma rywrai'n dod â dyn claf ato, wedi'i barlysu, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu ffydd y rhai oedd yn ei gario, fe ddywedodd wrth y dyn wedi'i barlysu,
“Cod dy galon, fy mab. Mae dy bechodau di wedi'u maddau.”
3Ar hynny dyma ryw ysgrifenyddion yn dweud wrthyn' eu hunain, “Mae hwn yn cablu.”
4Fe ddeallodd Iesu beth oedd yn eu meddyliau, ac fe ddywedodd,
“Pam y mae'n rhaid ichi feddwl drwg yn eich calonnau? 5P'un yw'r hawsaf ei ddweud, ‘Mae dy bechodau di wedi'u maddau,’ ynte ‘Cod, a cherdda’? 6Ond er mwyn ichi weld fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear yma i faddau pechodau —”
Trodd a dweud wrth y dyn wedi'i barlysu,
“Cod ar dy draed, gafael yn dy wely, a dos adref.”
7Fe gododd y dyn, a mynd yn ôl i'w gartref. 8Yr oedd y dyrfa wedi synnu wrth weld y fath beth, ac yn clodfori Duw am roi'r fath allu i ddynion.
9Fel yr oedd Iesu'n mynd yn ei flaen oddi yno fe welodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn swyddfa'r dreth. Fe ddywedodd wrtho,
“Canlyn fi”.
Ac fe gododd yntau, a'i ganlyn.
10Wedi hynny, pan oedd Iesu'n cael pryd o fwyd yn y tŷ dyma nifer mawr o gasglwyr trethi a phobol ddigymeriad yn dod i eistedd wrth y ford gydag ef a'i ddisgyblion. 11Wrth weld hyn, dyweddodd y Ffariseaid wrth ei ddisgyblion ef,
“Pam y mae'ch athro'n bwyta gyda chasglwyr trethi a phobol ddigymeriad.
12Clywodd Iesu hwy, a dweud,
“ 'D oes dim angen meddyg ar rai sy'n iach, ond ar y cleifion. 13Ewch adref, a dysgwch beth yw ystyr hyn: ‘Trugaredd sy'n rhoi boddhad i mi, nid aberth.’ 'Rwyf i wedi dod i wahodd pechaduriaid, nid gwŷr cyfiawn.”
14Wedyn, daeth disgyblion Ioan ato a gofyn,
“Pam yr ydym ni a'r Ffariseaid yn ymprydio cymaint, ond dy ddisgyblion di'n ymprydio dim?”
15Dyweodd Iesu wrthynt,
“ 'Ydych-chi'n disgwyl i wahoddedigion newn priodas fod mewn galar tra bo'r priodfab gyda nhw'? Fe ddaw amser pan gymerir y pridfab oddi arnyn-hw'; wedyn y byddan-hw'n ymprydio.
16“ 'D oes neb yn cymryd darn newydd sbon o frethyn i drwsio hen gôt; fe fyddai'r clwt yn torri'n rhydd oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg yn waeth nag o'r blaen, 17A 'd oes neb yn tywallt gwin newydd i hen wingrwyn; os gwneir hynny, bydd y gwingrwyn yn byrstio, a dyna'r gwin wedi'i golli a'r gwingrwyn newydd, a thrwy hynny arbed y ddau.”
18Tra oedd ef yn siarad â hwy fel hyn, dyma ryw swyddog yno, a phlygu o'i flaen, a dweud,
“Mae fy merch newydd farw. Tyrd 'rwan, a rho dy law arni, ac fe ddaw'n fyw yn ôl.”
19Cododd Iesu, a mynd i'w ganlyn, a'i ddisgyblion gydag ef. 20Ar y ffordd, dyma wraig a oedd wedi dioddef ers deuddeng mlynedd gan waedlif yn dod o'r tu ôl iddo ac yn cyffwrdd â min ei fantell. 21Dweud wrthi'n hunan yr oedd hi, ‘Os ca-i ddim ond cyffwrdd â i fantell e', mi fydda-i'n iach.’ 22Ond fe drodd Iesu, a'i gweld. Ac meddai wrthi,
“Cod dy galon, fy merch-i; mae dy ffydd wedi dy wella-di.”
Ac o'r funud honno fe gafodd y wraig ei hiechyd yn ôl.
23Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ'r swyddog, a gweld y galarwyr yn canu ffliwtiau a'r dyrfa'n cadw stŵr, fe ddywedodd wrthynt,
24“Ewch o'r ffordd. 'D yw'r ferch fach ddim wedi marw; cysgu y mae-hi.”
A dyna hwy'n chwerthin yn wawdlyd am ei ben. 25Ond fe yrrodd y dyrfa allan, a mynd i'r ystafell; fe gydiodd yn ei llaw, a chododd yr eneth. 26Ac fe aeth son am y peth drwy'r wlad i gyd.
27Pan oedd Iesu ar ei ffordd oddi yno fe ddaeth dau ddyn dall ar ei ôl, yn gweiddi ar ucha'u llais,
“Mab dafydd, cymer drugaredd arno-ni!”
28Wedi iddo fynd i'w lety fe ddaeth y deillion ato. Ac meddai Iesu wrthynt,
“ 'Ydych-chi'n credu y galla-i wneud hyn?”
“Ydym, Arglwydd,” meddent hwythau.
29Yna fe gyffyrddodd ef â'u llygaid, a dweud, “Am ichi gredu, fe gewch.”
30Ac fe agorwyd eu llygaid. Ond fe roddod Iesu rybudd difrifol iddynt.
“Cymerwch ofal”, meddai, “na chaiff neb wybod am hyn.”
31Ond wedi iddynt fynd allan, fe ddaeth â'r hanes drwy'r wlad i gyd.
32Pan oeddynt ar gychwyn allan, fe ddaeth rhywrai â dyn mud ato, a hwnnw yng ngafael ysbryd drwg. 33Wedi gyrru'r cythraul ohono, fe gafodd y mudan ei leferydd yn ôl. Yr oedd y dyrfa wedi rhyfeddu, ac yn dweud,
“ 'Welwyd dim byd tebyg i hyn erioed yn Israel.”
34Ond y peth a ddywedodd y Ffariseaid oedd,
“Trwy allu pennaeth y cythreuliaid y mae-o'n gyrru cythreuliaid allan.”
35Yn awr fe aeth Iesu ar daith drwy'r holl drefi a phentrefi, yn dysgu yn eu synagogau hwy ac yn pregethu efengyl y deyrnas, ac yn gwella pob math o afiechyd a gwendid. 36Ac wrth edrych ar y dyrfa fe deimlodd drostynt i'r byw, am eu bod yn ddryslyd a thruenus, fel defaid heb fugail. 37Ac meddai wrth ei ddisgyblion,
“Mawr yw'r cynhaeaf, ond prin yw'r gweithwyr. 38Gweddïwch, felly, ar Arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i gasglu'i gynhaeaf i mewn.”
Currently Selected:
Mathew 9: MATIFE61
Tya elembo
Kabola
Copy
Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo

: