Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Mathew 8

8
1Pan ddaeth i lawr o'r mynydd, fe aeth tyrfa enfawr i'w ganlyn ef. 2A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ac yn plygu o'i flaen, ac yn dweud, “Arglwydd, os wyt-ti'n dewis, fe elli fy ngwneud-i'n lân.”
3Estynnodd Iesu'i law a chyffwrdd ag ef.
“Yr ydw-i'n dewis,” meddai. “Bydd yn lân”.
Ac yn y fan a'r lle, fe'i glanhawyd oddi wrth y gwahanglwyf. 4Yna fe ddywedodd Iesu wrtho,
“Gofala nad wyt-ti ddim i siarid â neb. Dos yn syth at yr offeiriad, dangos dy hun iddo, a rho'r offrwm diolch am dy wellhad yn ôl gorchymyn Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”
5Pan ddaeth Iesu i mewn i Gapernaum, fe ddaeth capten yn y fyddin Rufeinig ato ac ymbil arno,
6“Syr, mae'r gwas acw'n gorwedd yn y tŷ yn wael, wedi'i barlysu, ac mewn poen enbyd,”
7“Mi ddof yna a'i wella”, meddai Iesu.
8“Syr,” atebodd y capten, “ 'd ydw' i ddim yn ddigon da iti ddod dan fy nghronglwyd i. Dim ond dweud y gair sydd eisiau iti, a bydd fy ngwas yn well. 9Mi wn i beth yw ufuddhau i awdurdod, ac mae genny' filwyr o dana-i. 'R wy'n dweud wrth un, ‘Dos!’ ac mae yntau'n mynd; 'r wy'n dweud wrth un arall, ‘Tyrd yma!’ ac mae yntau'n dod; 'r wy'n dweud wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac mae yntau'n gwneud.”
10Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd. Ac meddai wrth y bobol oedd yn ei ganlyn,
“ 'R wy'n dweud y gwir ichi, welais-i mo'r fath ffydd, hyd yn oed yn Israel. 11Ac 'r ydw-i am ddweud hyn: fe ddaw llawer o'r dwyrain ac o'r gorllewin i eistedd wrth y ford gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas y nefoedd. 12Ond am y rhai sy wedi'u geni i'r deyrnas, fe'u telfir nhw i'r tywllwch y tu allan; ac yno fe fydd hen grïo a rhincian dannedd,”
13A dywedodd Iesu wrth y capten,
“Dos adre'n awr. Fel y credaist-ti, felly y bydd-hi.”
Ac ar y funud honno fe iachawyd ei was.
14Pan ddaeth Iesu i mewn i dŷ Pedr fe welodd ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yno, yn dost mewn twymyn. 15Fe gyffyrddodd â'i llaw, ac aeth y dwymyn oddi wrthi. Ac yna fe gododd hithau, a gwasanaethu arnynt.
16Gyda'r nos fe ddaethant â llawer ato yng ngafael ysbrydion drwg. Ag un gair fe yrrodd yr ysbrydion allan, a gwella'r clefion i gyd. 17Felly y daeth geiriau'r proffwyd Eseia'n wir pan ddywedodd,
Cymerodd ef ein gwendidau ni
A dwyn ein hafiechydon arno'i hun.
18Pan welodd Iesu faint y dyrfa a oedd wedi tyrru o'i gwmpas, fe roddodd orchymyn i groesi i'r ochor draw. 19Ar hynny, daeth un o'r ysgrifenyddion i fyny ato a dweud wrtho,
“Athro, mi ddof ar dy ôl di i b'le bynnag yr ei-di.”
20Dywedodd Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau; mae gan yr adar nythod. Ond 'd oes gan Fab y dyn ddim lle i roi'i ben i lawr.”
21Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho,
“Arglwydd, gad imi'n gyntaf fynd adre' i gladdu 'nhad,”
22“Canlyn di fi,” meddai Iesu, “a gad i'r rhai marw gladdu'r marw.”
23Yna fe aeth i mewn i'r cwch, a'i ddisgyblion yn ei ddilyn. 24A dyna storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y tonnau'n golchi dros y cwch. Ond yr oedd ef yn cysgu. 25Dyma'i ddisgyblion ato, a'i ddeffro, a galw arno,
“Arglwydd achub ni! 'R ydy-ni'n boddi!”
26Ac meddai yntau, “Pam y mae arnoch-chi gymaint o ofn, a chyn lleied o ffydd?”
Yna fe gododd, a rhoi cerydd i'r gwyntoedd a'r môr. A dyna dawelwch mawr. 27Yr oedd y dynion wedi rhyfeddu, ac yn holi,
“Pa fath o ddyn ydy' hwn? Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo!”
28Wedi iddo gyrraedd yr ochor draw, lle'r oedd gwlad y Gadareniaid, daeth dau ddyn yng ngafael ysbrydion drwg i'w gyfarfod o'r beddau yn y graig. Yr oedd y rhain mor ffyring fel nad oedd neb yn mentro mynd y ffordd honno. 29A dyna hwy'n sgrechian arno,
“Pam na adewi-di lonydd inni, Iesu, mab Duw? Wyt-ti wedi dod i'n poeni-ni cyn yr amser?”
30Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori. 31Ac fe grefodd y cythreuliaid arno,
“Os wyt-ti am ein gyrru-ni allan, gad inni fynd i'r moch yn y genfaint acw,”
32“I ffwrdd â chi,” meddai yntau.
Ac felly, allan yr aethant ac i mewn i'r moch. Ar hynny, dyna'r genfaint i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i'r môr, ac yn darfod yn y dŵr. 33Dihangodd y dynion a oedd yn gofalu am y moch, a rhedeg i'r dref, ac adrodd yr holl hanes, a'r hyn a ddigwyddodd i'r ddau â'r cythreuliaid ynddynt. 34A dyma'r dref i gyd allan i gyfarfod Iesu, ac wedi cael golwg arno, crefu arno adael eu gwlad.

Currently Selected:

Mathew 8: MATIFE61

Tya elembo

Kabola

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo