Mathew 4
4
1Yna fe arweiniwyd Iesu gan yr Ysbryd i fyny i'r anialwch, i'w demtio gan y diafol. 2Fe beidiodd â bwyta am ddeugain niwrnod a deugain nos, ac ar ôl hynny yr oedd eisiau bwyd arno. 3Daeth y temtiwr ato a dweud wrtho,
“Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n dorthau.”
4Atebodd yntau,
“Dyma sy wedi'i sgrifennu: ‘Ni all dyn ddim byw ar fara'n unig, ond ar bob gair sy'n dod allan o enau Duw’.”
5Wedyn, cymerodd y diafol ef i'r ddinas santaidd, a'i osod ar bigyn ucha'r deml, a dweud wrtho,
6“Os Mab Duw wyt-ti, tafl dy hun i lawr. O achos dyma sy wedi'i sgrifennu: 'Fe rydd orchymyn i'w angylion i ofalu amdant; fe'th ddaliant di â'u dwylo, rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg'.”
7Ac meddai Iesu wrtho,
“Mae hyn hefyd wedi'i sgrifennu: ‘Paid â themtio'r Arglwydd, dy Dduw’.”
8Unwaith eto, cipiodd y diafol ef i ben mynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u crandrwydd. 9A dweud wrtho,
“Mi rof y rhain i gyd i ti, dim ond iti syrthio i lawr a'm haddoli i.”
10Ar hynny dywedodd Iesu wrtho,
“I ffwrdd â thi, Satan! Dyma sy wedi'i sgrifennu: 'Rhaid iti addoli'r Arglwydd, dy Dduw, ac ni chei di wasanaethu neb ond ef'.”
11Yna fe adawodd y diafol lonydd iddo, a death angylion ato i ofalu amdano.
12Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi'i gymryd i garchar, fe giliodd i Galilea. 13Fe adawodd Nasareth, a mynd i aros yng Nghapernaum, lle ar lan y môr yn nhiriogaeth Sabwlon a Naffthali, 14a thrwy hynny fe ddaeth geiriau'r proffwyd Eseia'n wir pan ddywedodd,
15Gwlad Sabwlon a gwlad Naffthali,
Y wlad ger y môr ar draws Iorddonen,
Galilea'r Cenhedloedd!
16Mae'r bobol fu'n eistedd mewn tywyllwch
Wedi gweld goleuni mawr;
Ar y rhai fu'n eistedd yn y tir sy dan gysgod marwolaeth
Fe gododd y wawr.
17O'r adeg honno fe ddechreuodd Iesu bregethu, a dweud,
“Edifarhewch! Mae teyrnas y nefoedd ar ddod.”
18Wrth gerdded ar Ian môr Galilea fe welodd ddau frawd: Seimon, a gafodd yr enw Pedr, a'i frawd Andreas. Taflu rhwyd i'r môr yr oeddynt; pysgotwyr oeddynt wrth eu gwaith. 19Ac fe ddywedodd wrthynt,
“Dewch ar fy ôl i, ac mi ddysgaf ichi bysgota dynion.”
20A dyna hwy'n gollwng eu rhwydau ar unwaith ac yn ei ganlyn ef.
21Oddi yno, fe aeth yn ei flaen ac fe welodd ddau frawd arall: Iago, mab Sebedeus, a Ioan ei frawd. Yr oedd y rhain mewn cwch gyda'u tad, Sebedeus, yn trwsio'u rhwydau. Fe'u galwodd hwythau. 22Ac ar unwaith, fe adawsant y cwch a'u tad, a mynd ar ei ôl ef.
23Yna fe aeth Iesu o gwmpas Galilea i gyd, yn dysgu yn eu synagogau hwy ac yn pregethu'r newyddion da am y deyrnas ac yn gwella pob afiechyd a gwendid ymysg y bobol. 24Aeth y sôn amdano drwy Syria gyfan, a phobol yn dod â'u cleifion i gyd ato, yn dioddef gan bob math o glefydau a phoenau — ysbryd drwg, gwallogofrwydd, a'r parlys. Ac yntau'n eu gwella.
25Ac aeth tyrfa fawr ar ei ôl ef o Galilea a Decapolis a Jerwselam a Jwdea, ac o'r tu draw i Afon Iorddonen.
Currently Selected:
Mathew 4: MATIFE61
Tya elembo
Kabola
Copy
Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo