Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Mathew 2

2
1Wedi geni Iesu ym Methlehem yng ngwald Jwdea, pan oedd Herod yn frenin, fe ddaeth dewiniad o'r dwyrain i Jerwsalem, 2a gofyn, “P'le mae'r mab sy wedi'i eni'n frenin i'r Iddewon? Fe welsom ei seren yn y dwyrain ac fe ddaethom i'w addoli e'.”
3Wrth glywed hyn, fe gynhyrfodd y benin Herod drwyddo, a phawb yn Jerwsalem gydag ef. 4Fe alwodd y prif offeiriaid a'r holl ysgrienyddion ato, a'u holi ymh'le'r oedd y Crist yn debyg o gael ei eni. 5A dyna hwythau'n dweud,
“Ym Methlehem, yng ngwlad Jwdea. Fel hyn y sgrifennodd y proffwyd:
6A thithau, Fethlehem, yng ngwlad Jwda,
Nid ti yw'r lleiaf ymysg llywodraethwyr Jwda;
Ohonot ti fe ddaw llywodraethwr
A fydd yn fugail i'm pobol Israel.”
7Yr hyn a wnaeth Herod wedyn oedd galw'r dewiniad ato'n ddistaw bach, a'u holi'n fanwl pa bryd y daethai'r seren i'r golwg. 8Ac yna, eu hanfon i Fethlehem, a'u siarsio,
“Ewch, a chwiliwch yn ofalus am y plentyn. Ac wedi dod o hyd iddo, dowch yn ôl i ddweud wrthyf i, er mwyn i minnau gael mynd i'w addoli e'.”
9Gwrandawodd y gwŷr doeth ar y brenin, ac yna cychwyn ar eu taith. Ac yn y fan, dacw'r seren a welsent yn y dwyrain yn mynd o'u blaenau, ac yn sefyll yn stond uwchben y fan lle'r oedd y plentyn. 10A phan welsant y seren, yr oeddynt yn falch y tu hwnt i eiriau.
11Wedi mynd i'r tŷ, fe welsant y baban gyda Mair ei fam. Hwythau ar eu hunion yn syrthio i lawr ac yn ei addoli ef, ac wedi agor eu trysorau yn cynnig anrhegion iddo: aur a thus a myrr.
12Yna, am eu bod wedi'u rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod, aethant adref i'w gwlad ar hyd ffordd wahanol.
13Wedi iddynt fynd, dyma angel oddi wrth yr Arglwyd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud,
“Cod, a chymer y plentyn bach a'i fam, a dianc i'r Aifft. Ac aros yno nes imi ddweud wrthyt-ti. Mae Herod yn chwilio am y plentyn bach i roi diwedd arno.”
14Wedi codi, fe gymerodd Joseff y plentyn bach a'i fam yn ystod y nos, a mynd i ffwrdd i'r Aifft. 15Ac fe arhosodd yno nes i Herod farw, er mwyn i'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd ddod yn wir:
O'r Aifft y gelwais fy mab.
16Ond pan welodd Herod fod y dewiniaid wedi'i dwyllo, fe gollodd ei dymer yn enbyd. Fe anfonodd filwyr, a lladd yr holl fechgyn ym Methlehem a'r cylch a oedd yn
ddwyflwydd oed neu dan hynny, gan gyfrif o'r amser a gafodd drwy holi'r dewiniaid.
17Felly y daeth geirau'r proffwyd Jeremeia'n wir pan ddywedodd,
18Fe glywyd gweiddi yn Rama,
Galaru a llefain ac ochneidio mawr:
Rachel yn wylo am ei phlant,
Ac yn annichon ei chysuro am nad ydynt ganddi mwy.
19Ond wedi i Herod farw, dyma angel oddi wrth yr Arglwydd yn ymddangos eto i Joseff mewn breuddwyd yn yr Aifft, ac yn dweud,
20“Cod, a chymer y plentyn a'i fam a dos i wlad Israel; mae'r rhai oedd yn ceisio lladd y plentyn wedi marw.”
21Fe gododd yntau, a chymryd y plentyn a'i fam, a theithio i wlad Israel. 22Ond pan glywodd fod Archelaus yn llywodraethu ar Jwdea yn lle'i dad, Herod, yr oedd arno ofn mynd yno. Ac wedi cael rhybudd mewn breuddwyd, fe symudodd i ranbarth Galilea.
23Wedi cyrraedd yno, fe aeth i fyw mewn tref o'r enw Nasareth. Ac felly y daeth yr hen broffwydoliaeth yn wir, y gelwid ef yn Nasaread.

Currently Selected:

Mathew 2: MATIFE61

Tya elembo

Kabola

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo