Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Mathew 1

1
1Dyma lyfr achau Iesu Grist, mab Dafydd fab Abraham. 2Abraham oedd tad Isaac; Isaac oedd tad Jacob; Jacob oedd tad Jwda a'i frodyr 3Jwda oedd tad Ffares a Sara, a'u mam oedd Tamar; Ffares oedd tad Esrom; Esrom oedd tad Aram; 4Aram oedd tad Aminadab; Aminadab oedd tad Naasom; Naasom oedd tad Salmon; 5Salmon oedd tad Boas, a'i fam oedd Rahab; Boas oedd tad Obed, a'i fam oedd Ruth: Obed oedd tad Jese, 6a Jese oedd tad y brenin Dafydd.
Yr oedd y brenin Dafydd yn dad i Solomon, a gwriag Wreias yn fam iddo; 7Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, Abeia'n dad i Asa. 8Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Wseia, 9Wseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia 10Heseceia i Manase, Manase i Amon, Amon i Joseia, 11Ac yn adeg y symud i Fabilon fe anwyd Jechoneia a'i frodyr, meibion Joseia.
12Wedi'r symud i Fabilon fe anwyd Salathiel i Jechoneia. Salatheil wedyn oedd tad Sorobabael, 13a Sorobabel oedd tad Abïwd. Yr roedd Abïwd yn dad i Eliacim, Eliacim i Asor, 14Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd, 15Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob. 16A Jacob oedd tad Joseff, gŵr Mair, mam Iesu, a elwir ‘Crist’.
17Felly, y mae pedair cenhedlaeth ar ddeg rhwng Abraham a Dafydd; pedair ar ddeg arall rhwng Dafydd a'r symud i Fabilon; a phedair ar ddeg wedyn rhwng y symud i Fabilon ac amser Crist.
18Fel hyn y digwyddodd genedigaeth Iesu Grist. Yr oedd ei fam, Mair, wedi'i dyweddïo i briodi Joseff, ond cyn iddynt fyw gyda'i gilydd fe gafwyd ei bod hi'n disgwyl plentyn gan yr Ysbryd Glân. 19Am fod Joseff ei darpar-ŵr yn ddyn teg, nid oedd am ei gwneud hi'n destun siarad, ac fe benderfynodd ei rhyddhau hi o'i phriodas yn ddstaw. 20Tra oedd wrthi'n meddwl am hynny, dyma angel oddi wrth yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd ac yn dweud,
“Joseff, mab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig. Mae'r hyn sy ynddi hi wedi dod oddi wrth yr Ysbryd Glân. 21Mae-hi'n mynd i gael mab, a'r enw a roi di arno fydd Iesu, am mai fe sydd i achub ei bobol oddi wrth eu drygioni.”
22Fe ddigwyddodd hyn i gyd er mwyn i'r hyn a ddywedodd yr Arglwwyd drwy'r proffwyd ddod yn wir:
23Gwelwch, bydd y forwyn yn feichiog
ac yn esgor ar fab,
Ac fe'i galwant wrth yr enw Imaniwel.
(Ystyr hynny yw ‘Duw gyda ni’).
24Pan ddeffrodd Joseff o'i gwsg, fe wnaeth fel y dywedodd yr angel wrtho. Fe gymerodd ei wraig i fyw gydag ef, 25ond heb gael cyfathrach â hi nes bod ei mab cyntaf wedi'i eni. A'r enw a roddodd ef arno oedd ‘Iesu’.

Currently Selected:

Mathew 1: MATIFE61

Tya elembo

Kabola

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo