Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 8:27-30

Ioan Marc 8:27-30 CJW

Iesu á aeth oddyno gyda ’i ddysgyblion i bentrefi Caisarëa Philippi, ac àr y ffordd efe á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? Hwythau á atebasant, Ioan y Trochiedydd; ond rhai á ddywedant, Elias; ac ereill, Un o’r Proffwydi. Yntau á ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? Pedr gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Ti yw y Messia. Yna efe á orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb am dano ef.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Ioan Marc 8:27-30