Ioan Marc 16:14-18
Ioan Marc 16:14-18 CJW
O’r diwedd efe á ymddangosodd i’r unarddeg, fel yr oeddynt yn bwyta, ac á ddannododd iddynt eu hannghrediniaeth a’u cildynrwydd, yn annghoelio y rhai à’i gwelsent ef àr ol ei adgyfodiad. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Ewch drwy yr holl fyd, cyhoeddwch y Newydd da i bob creadur. Y neb á gredo ac á drocher, á fydd cadwedig; ond y neb ni chredo, á gollfernir. A’r galluoedd gwyrthiol hyn á ganlynant y credinwyr: – Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid. Llefarant â thafodau anadnabyddus iddynt o’r blaen. Gafaelant mewn seirff gyda diogelwch. Ac os gwenwyn á yfant, ni wna iddynt ddim niwaid. Y cleifion á iachâant drwy osod eu dwylaw arnynt.





