Ioan Marc 15:33-37
Ioan Marc 15:33-37 CJW
Ac o’r chwechfed awr hyd y nawfed, bu tywyllwch dros yr holl dir. Ar y nawfed awr y dolefodd Iesu, gàn ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani! yr hyn á arwydda, Fy Nuw, fy Nuw, paham ym gadewaist! Rhai oedd yn bresennol, pan glywsant hyn, á ddywedasant, Clywch! y mae efe yn galw àr Elias. Un àr yr un pryd á redodd, ac á wlychodd ysbwng mewn gwinegr, a gwedi ei rwymo wrth gorsen, á’i cynnygiodd iddo iddei yfed, gàn ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias iddei dỳnu ef i lawr. Ac Iesu gan lefain â llef uchel, á ymadawodd â’r ysbryd.





