Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 15:6-15

Ioan Marc 15:6-15 CJW

Ac àr yr wyl y gollyngai efe yn rydd iddynt yn wastad ryw un carcharor, yr hwn á ofynent. Ac yr oedd yno un Barabbas, yr hwn á garcharasid gyda ’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y terfysg á wnaethant lofruddiaeth. A’r lliaws gyda chrochfloedd á ddeisyfodd àr Bilat wneuthur fel y gwnai bob amser iddynt. Yntau á’u hatebodd hwynt, gàn ddywedyd, A fỳnwch chwi i mi ollwng yn rydd i chwi frenin yr Iuddewon? (Canys efe á wyddai mai o genfigen y traddodasai yr archoffeiriaid ef.) Ond yr archoffeiriaid á gynhyrfasant y lliaws i bwyso am ryddâu Barabbas yn hytrach nag Iesu. Pilat drachefn á gyfryngai, gàn ddywedyd, Beth gàn hyny á fỳnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw yn frenin yr Iuddewon? Hwythau á lefasant, Croeshoelia ef. Pilat á ofynodd iddynt, Paham? Pa ddrwg á wnaeth efe? A hwythau á lefasant yn daerach fyth, Croeshoelia ef. Yna Pilat, yn chwennych boddloni y dorf, á ryddâodd iddynt Farabbas, a gwedi peru fflangellu Iesu, efe á’i traddododd ef iddei groeshoelio.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Ioan Marc 15:6-15