Ioan Marc 14:27-31
Ioan Marc 14:27-31 CJW
A dywedodd Iesu wrthynt, Y nos hon y byddaf yn dramgwyddfa i chwi oll; canys ysgrifenedig yw, “Tarawaf y Bugail, a’r defaid á wasgerir.” Er hyny, gwedi i mi adgyfodi, mi á âf o’ch blaen chwi i Alilëa. Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Pe byddent oll yn tramgwyddo, nis gwnaf fi byth. Iesu á’i hatebodd ef, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i ti, mai heddyw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi di fi deirgwaith. Ond Pedr á daerodd, gàn chwanegu, Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni ’th wadaf byth. A’r lleill oll á ddywedasant yr un modd





