Ioan Marc 13:3-7
Ioan Marc 13:3-7 CJW
Gwedi hyny, fel yr oedd efe yn eistedd àr fynydd yr Oleẅwydd, gyferbyn a’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, á ofynasant iddo o’r neilldu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha beth fydd yr arwydd pan fyddo y pethau hyn oll àr gael eu cyflawni? Iesu gàn eu hateb hwynt, á gymerodd achlysur i ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi; canys llawer á gymerant arnynt fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y dyn ac á dwyllant lawer. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffröer chwi; canys rhaid i hyn ddygwydd, ond nid yw y diwedd eto.


