Ioan Marc 13:28-31
Ioan Marc 13:28-31 CJW
Dysgwch yn awr gyffelybiaeth oddwrth y ffigysbren. Pan fyddo ei gangenau yn dyner, ac yn blaguro, gwyddoch bod yr hâf yn agos. Yr un modd, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, nod wrth y drws. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni chwblâer y pethau hyn oll. Canys nef a daiar á ballant; ond fy ngeiriau i ni phallant ddim.



