Ioan Marc 12:41-44
Ioan Marc 12:41-44 CJW
Ac Iesu gwedi eistedd gyferbyn a’r drysorfa, á edrychodd àr y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa; a chyfoethogion lawer á fwriasant lawer. Yna y daeth gwraig weddw dlawd, ac á fwriodd i fewn ddwy hatling, (yr hyn á wna ffyrling.) Iesu gwedi galw ei ddysgyblion, á ddywedodd wrthynt, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, roddi o’r wraig weddw dlawd hon fwy na’r rhai oll à fwriasant i’r drysorfa; oblegid hwynthwy oll á fwriasant o’r hyn oedd yn ngweddill ganddynt; ond hon o’i heisieu á fwriodd i fewn yr hyn oll à feddai – ei holl fywioliaeth.





