Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 12:28-34

Ioan Marc 12:28-34 CJW

Ysgrifenydd, yr hwn á’u clywsai hwynt yn dadleu, wrth ganfod cymhwysder ei atebiad, á ddaeth ato ef, ac á gynnygiodd yr holiad hwn; Pa un yw y gorchymyn pènaf o’r cwbl? Iesu á atebodd, Y pènaf o’r holl orchymynion yw, “Clyw, Israel, yr Arglwydd yw ein Duw ni. Yr Arglwydd sydd un:” a “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.” Hwn yw y gorchymyn cyntaf. Yr ail sy gyffelyb iddo: “Ceri dy gymydog fel ti dy hun.” Nid oes un gorchymyn mwy na’r rhai hyn. Yr ysgrifenydd á atebodd, Yn wir, Rabbi, ti á atebiast yn dda. Y mae un, a dim ond un; a’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ysbryd, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth; a charu cymydog un fel ef ei hun, sy fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau, Iesu gwedi dàl sylw mòr synwyrol yr atebasai efe, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddwrth deyrnas Duw. Gwedi hyny, ni feiddiodd neb osod holiadau iddo.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Ioan Marc 12:28-34