Ioan Marc 12:13-17
Ioan Marc 12:13-17 CJW
Yna yr archoffeiriaid, yr ysgrifenyddion, a’r henuriaid, gàn adael Iesu, á aethant ymaith, ac á ddanfonasant ato ryw Pharisëaid a Herodiaid, èr ei faglu ef yn ei eiriau. Y rhai hyn wedi dyfod i fyny, á ddywedasant wrtho, Rabbi, ni á wyddom mai cywir ydwyt, a nad wyt yn gofalu rhag neb; oblegid nid wyt yn derbyn wynebau dynion, ond yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn. Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Gaisar, ai nid yw? A roddwn ni, ai ni roddwn ddim? Yntau yn canfod eu dichell hwynt, á atebodd, Paham y mỳnech fy maglu i? Dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. Pan ddygasent hi, efe á ofynodd iddynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon, a’r argraff? Hwy á atebasant, Eiddo Caisar. Iesu á atebodd, Rhoddwch i Gaisar, yr hyn sydd eiddo Caisar; ac i Dduw, yr hyn sydd eiddo Duw. A hwy á ryfeddasant ato.


