Ioan Marc 11:15-19
Ioan Marc 11:15-19 CJW
Gwedi dychwelyd i Gaersalem, efe á aeth i’r deml, ac á ỳrodd allan y rhai à werthent, a’r rhai à brynent yn y deml, ac á ddymchwelodd fyrddau y newidwyr arian, ac ystalon y gwerthwyr colomenod; a ni adawai i neb ddwyn llestri drwy y deml. Efe á’u dysgodd hwynt hefyd, gàn ddywedyd, Onid yw yn ysgrifenedig, “Fy nhŷ i á elwir yn dŷ gweddi i bob cenedl?” ond chwi á’i gwnaethoch yn ffau ysbeilwyr. A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid wedi clywed hyn, á geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl liaws yn sỳnu wrth ei ddysgeidiaeth ef. Ac yn yr hwyr, efe á aeth allan o’r ddinas.




