Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 10:2-9

Ioan Marc 10:2-9 CJW

A daeth rhyw Phariseaid, y rhai, èr ei brofi, a ofynasant iddo, Ai cyfreithlawn i ŵr ysgaru ei wraig? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Pa orchymyn á roddes Moses i chwi àr y mater hwn? Hwythau á atebasant, Moses á ganiataodd i ni ysgrifenu iddi lythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, O herwydd eich tuedd anhydrin y rhoddes Moses i chwi y caniatâad hwn. Ond o’r dechreuad, àr y crëad, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. O herwydd hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy ill dau fyddant un cnawd. Nid ydynt, gàn hyny, mwy yn ddau, ond un cnawd. Y peth, gàn hyny, á gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Ioan Marc 10:2-9