Ioan Marc 10:46-52
Ioan Marc 10:46-52 CJW
Yna y daethant i Iericho. Gwedi hyny, fel yr oedd efe yn ymadael oddyno, gyda ’i ddysgyblion, a thyrfa fawr, Bartimëus ddall, mab Timëus, yr hwn á eisteddai wrth ymyl y ffordd yn cardota, gwedi clywed mai Iesu y Nasarethiad oedd, á lefodd, gàn ddywedyd, Iesu, mab Dafydd, tosturia wrthyf! Llawer á’i dwrdiasant ef i dewi, ond efe á lefodd yn uwch o lawer, Mab Dafydd, tosturia wrthyf! Iesu á safodd, ac á archodd iddynt ei alw ef. Yn ganlynol hwy á alwasant y dall, gàn ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod, y mae efe yn dy alw di. Yna gwedi taflu ei fantell ymaith, efe á neidiodd i fyny, ac á aeth at Iesu. Iesu gàn ei gyfarch ef, a ddywedodd, Beth á fỳni di i mi ei wneuthur i ti? Rabboni, atebai y dall, rhoddi i mi fy ngolwg. Iesu á ddywedodd wrtho, Dos; dy ffydd á’th iachâodd. Yn y fàn efe á gafodd ei olwg, ac á ddylynodd Iesu àr y ffordd





