Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 10:28-31

Ioan Marc 10:28-31 CJW

Yna y cymerodd Pedr achlysur i ddywedyd, Am danom ni, nyni á adawsom bob peth, ac á’th ganlynasom di. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, Yn wir, meddaf i chwi, nid oes neb à adawo ei dỳ, neu ei frodyr, neu ei chwiorydd, neu ei dad, neu ei fam, neu ei wraig, neu ei blant, neu ei diroedd, èr fy mwyn i a’r efengyl, à’r nas derbyn yn awr yn y byd hwn y cànn cymaint, yn dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau; ac yn y byd à ddaw, fywyd tragwyddol. Ond llawer fyddant gyntaf y rhai ydynt ddiweddaf; a diweddaf y rhai ydynt gyntaf.