Logo YouVersion
Icona Cerca

Ioan Marc 10:23-27

Ioan Marc 10:23-27 CJW

Yna Iesu, gwedi edrych o’i amgylch, á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Mòr anhawdd yw i’r rhai goludog fyned i fewn i deyrnas Duw! Y dysgyblion á sỳnasant wrth ei eiriau ef; ond Iesu á atebodd drachefn, ac á ddywedodd wrthynt, O blant, mòr anhawdd yw i’r rhai à ymddiriedant mewn golud, fyned i fewn i deyrnas Duw! Wrth hyn hwy á sỳnasant yn fwy fyth, ac á ddywedasant y naill wrth y llall, Pwy, gàn hyny, á all fod yn gadwedig? Iesu gwedi edrych arnynt, á ddywedodd, I ddynion annichon yw, ond nid i Dduw; canys i Dduw pob peth sy ddichonadwy.