Luwc 8:16-18
Luwc 8:16-18 CJW
Nid ydys byth yn goleu llusern iddei guddio â llestr, neu ei ddodi dàn wely; ond iddei osod àr ddaliadur, fel y gallo y rhai à elant i fewn weled y goleuni. Canys nid oes dim dirgel, na ddadguddir; na dim cuddiedig, na wybyddir, a na ddaw yn gyhoeddus. Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywoch; canys i’r neb sy ganddo, y rhoddir chwaneg; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y dygir, hyd yn nod yr hyn y tybia fod ganddo.



