Luwc 5:27-32
Luwc 5:27-32 CJW
Ar ol y pethau hyn efe á aeth allan, ac a welai dollwr a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa, ac á ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe á gyfododd, á adawodd bob peth, ac á’i canlynodd ef. A Lefi á wnaeth iddo wledd fawr yn ei dŷ ei hun, lle yr oedd lliaws mawr o dollwyr ac ereill wrth y bwrdd gyda hwynt. Ond Ysgrifenyddion a Phariseaid y lle á rwgnachasant, gàn ddywedyd wrth ei ddysgyblion ef, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Nid y rhai iach, ond y rhai cleifion, sy raid iddynt wrth feddyg. Mi á ddaethym i alw, nid y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i ddiwygiad.





